Song: Ei Phen
Year: 2015
Viewed: 2 - Published at: 6 years ago

Odd hi'n cofio bob un gair nath hi sgwennu lawr ar ei dwylo hi
I sgwennu eto wedyn

A ma hi'n trio cadw lan 'da fi, wrth iddi arllwys ei phlot yn glir
A does dim byd yn newid

A weithie, ma' hi'n troi o'i hun i greu cymeriad newydd

A dyna sut curodd hi y byd i gyd
A dyna sut cliriodd hi ei phen yn glir

A ma'r angerdd yma'n troi yn gas
Does dim ateb a dim pwrpas
So ma hi'n gadael popeth

Ma'r trosiade'n dechre mynd yn waeth, gor ddefnyddio'r gair hiraeth
Wrth i'r plot waethygu

A weithie, ma' hi'n troi o'i hun i greu cymeriad newydd

A dyna sut curodd hi y byd i gyd
A dyna sut cliriodd hi ei phen yn glir

( Breichiau Hir )
www.ChordsAZ.com

TAGS :